Mae hon yn un o’r brithegion cyntaf i ymddangos bob blwyddyn, a gellir dod o hyd iddi mor gynnar â mis Ebrill mewn llennyrch coetirol neu ar lethrau garw lle mae rhedyn ungoes yn tyfu.
Mae’n hedfan yn agos i’r ddaear gan stopio’n rheolaidd i ymborthi ar flodau gwanwynol megis Glesyn y Coed (Ajuga reptans). Gellir ei gwahaniaethu o’r Fritheg Berlog Fach oherwydd y ddau ‘berl’ arian mawr a’r rhes o saith ‘perl’ allanol ar y tu isaf i’r adain gefn, yn ogystal â’r llinellau onglog coch (yn hytrach na du) sydd o gwmpas y perlau allanol a’r smotyn bach ar ganol yr adain gefn.
Bu’r glöyn hwn yn gyffredin iawn unwaith, ond mae wedi dirywio’n gyflym dros y degawdau diwethaf ac mae dan fygwth difrifol bellach ledled Cymru a Lloegr.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Brithegion, Y Goegfritheg
- Canolig ei maint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) – 44-47mm
Statws o ran cadwraeth
- Wedi’i rhestru fel rhywogaeth o brif bwysigrwydd dan Adran 41 o NERC (Deddf Genedlaethol yr Amgylchedd a Chymunedau Gwledig) yn Lloegr
- Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Dan amddiffyniad y Ddeddf Cadwraeth Natur yn Yr Alban
- Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
- Dan amddiffyniad llwyr yng ngwledydd Prydain yng nghyswllt gwerthu yn unig.
Planhigion bwyd y lindys
Y planhigyn bwyd a ddefnyddir amlaf yw’r Fioled Gyffredin (Viola riviniana) er bod fioledau eraill yn cael eu defnyddio hefyd megis Crinllys y Cŵn (V. canina), a Fioled y Gors (V. palustris) yn y gogledd.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon.
- Bu’r Fritheg Berlog Fach yn gyffredin iawn unwaith ledled ynys Prydain, ond erbyn hyn nid yw’n gyffredin ond yng ngogledd Yr Alban, de Cymbria, Dyfnaint, Cernyw a choetiroedd de ddwyrain Lloegr.
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -61%
Cynefin
Defnyddir tri math o gynefin yn bennaf: llennyrch coetirol, a hynny fel arfer mewn coetiroedd sydd wedi cael eu coedlannu neu eu cwympglirio’n ddiweddar; cynefinoedd sydd wedi’u draenio’n dda â mosaigau o laswellt, rhedyn ungoes trwchus a phrysgwyd ysgafn, a phorfeydd agored â choed collddail yn Yr Alban.
Ym mhob cynefin mae angen digonedd o blanhigion bwyd yn tyfu ymhlith llystyfiant tenau isel, ynghyd â llaesod ddail ddigonol.
Ffeithlenni
Y Fritheg Berlog* (Boloria euphrosyne)
Ben Williams
Britheg Berlog_Boloria euphosyne
Ben Williams