Mae Britheg y Gors dan fygythiad nid yn unig yng ngwledydd Prydain ond ledled Ewrop, ac o ganlyniad mae ymdrechion aruthrol yn cael eu neilltuo ar gyfer y gwaith o’i achub.

Mae adenydd siecrog y rhywogaeth brydferth hon yn loywach eu patrymau na rhai’r brithegion eraill, a gwelir hiliau ohonynt â marciau mwy amlwg yn yr Alban ac Iwerddon. Mae’r larfâu’n gweu gweoedd tra gweladwy y gellir eu cofnodi’n hawdd tua diwedd yr haf.

Mae poblogaethau Britheg y Gors yn anwadal dros ben, ac mae angen cynefinoedd neu rwydweithiau cynefinol eang ar y rhywogaeth i sicrhau y bydd yn goroesi yn y tymor hir. Mae ei phresenoldeb yn gyfyngedig erbyn hyn i ochr orllewinol Prydain ac Iwerddon.

Maint a Theulu

  • Teulu: y Brithegion
  • Maint: Canolig
  • Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 42-48mm

Statws o ran cadwraeth

  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
  • Rhywogaeth Adran 41 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf NERC yn Lloegr
  • Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Rhywogaeth Flaenoriaethol yng Ngogledd Iwerddon
  • Rhestr Bioamrywiaeth yr Alban
  • Statws BAP y DU: Rhywogaeth Flaenoriaethol
  • Statws Ewropeaidd: Agored i fygythiad
  • Dan warchodaeth lawn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981
  • Dan warchodaeth lawn Gorchymyn Bywyd Gwyllt Gogledd Iwerddon 1985 gynt

Planhigion Bwyd y Lindys

Y prif blanhigyn bwyd yw Bara’r Cythraul (Succisa pratensis). Ar laswelltiroedd calchaidd mae’n defnyddio Clafrllys y Maes (Knautia arvensis) a Chlafrllys Bach (Scabiosa columbaria) ar adegau.

Dosbarthiad

  • Gwledydd: Lloegr, Iwerddon,  Cymru a’r Alban
  • Mae wedi dirywio’n aruthrol, ac nid yw’n bresennol bellach ond ar arfordir gorllewinol yr Alban, de a gorllewin Cymru, Gogledd Iwerddon a de orllewin a de canolog Lloegr.
  • Tuedd y dosbarthiad ers y 1970au = -46%.

Cynefin

Mae dau brif fath o gynefinoedd: glaswelltiroedd llaith lle mae glaswelltydd tuswog i’w gweld yn bennaf ynghyd â glaswelltiroedd sialc (a hynny fel arfer ar lethrau sy’n wynebu’r gorllewin neu’r de yn Lloegr) a thiroedd arfordirol â glaswelltydd byrrach yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Gall nythfeydd fodoli dros dro hefyd mewn llennyrch mawrion (>1 ha) mewn coedwigoedd a glaswelltiroedd eraill.

Ffeithlenni

Britheg y Gors yng Nghymru 

 

Britheg y Gors (uwch-adain) (benyw)-Jim-Asher

Britheg y Gors (uwch-adain) (benyw)

Britheg y Gors (uwch-adain)

Britheg y Gors (uwch-adain)

Britheg y Gors  (is-adain)_Peter_Eeles

Britheg y Gors (is-adain)_Peter_Eeles

Brithig y Gors (lindysyn)

Brithig y Gors (lindysyn)

Britheg y Gors (ŵyau)

Britheg y Gors (ŵyau)