Mae’n werth edrych i fyny ar goed Onn amlwg ar ymylon coedwig rhag ofn y gwelwch chi glystyrau bach o löynnod llawn dwf yn gwibio o gwmpas. Byddant yn ymgynnull yno i gyplu ac ymborthi ar felwlith pryfed gleision (gwartheg y morgrug). Mae’r glöynnod llawn dwf yn ymborthi’n is i lawr hefyd weithiau ar flodau megis Cywarch Dŵr (Byddon Chwerw), Cedorwydd a Mieri. Y benywod a welir amlaf wrth iddynt ymwasgaru’n eang ar hyd perthi lle maent yn dodwy wyau gwynion hawdd eu gweld ar egin ifanc Drain Duon.

Mae’r glöyn yn gorffwys yn aml â’i adenydd ynghau gan ddangos is-adenydd oren-frown â dau ribin gwyn tonnog a chynfonnau bach. Mae’r uwch-adenydd yn frown â marc lliw oren.

Mae i ddosbarthiad y rhywogaeth hon batrwm bratiog lleol ar draws de ynys Prydain a chanolbarth deheuol Iwerddon, ac mae hi wedi dirywio’n sylweddol yn sgil yr arfer o ddileu perthi neu eu ffustio bob blwyddyn, sy’n dinistrio’r wyau.

Maint a Theulu

  • Teulu – Brithribiniau
  • Bach i Ganolig ei Faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 38-40mm

Statws o ran cadwraeth

  • Wedi’i rhestru fel rhywogaeth Adran 41 o bwysigrwydd pennaf  dan y Ddeddf NERC yn Lloegr
  • Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel                    
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
  • Wedi’i hamddiffyn rhag cael ei gwerthu yn unig ym Mhrydain

Planhigion bwyd y lindys

Mae’r glöyn yn epilio ar dyfiant ifanc Drain Duon (Prunus spinosa) ac weithiau ar rywogaethau eraill o Prunus megis Eirin Gwyllt (P. domestica).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Cymru ac Iwerddon
  • Wedi’i chyfyngu yn y DU i dri phrif ganolbwynt: de orllewin Cymru, Dyfnaint/ Gwlad yr Haf a Surrey/Sussex. Mae poblogaethau llai o gwmpas Rhydychen ac ar Wastatir Caersallog.
  • Tuedd Ddosbarthiad ers y 1970au = -43%.

Cynefin

Perthi, prysgwydd ac ymylon coedwigoedd lle mae Drain Duon yn amlwg a heb gael eu ffustio bob blwyddyn.

Brithribin Brown* (benyw/uwch-adain)

Brithribin Brown* (benyw/uwch-adain) (Thecla betulae)

Brithribin Brown* (gwryw/uwch-adain)

Brithribin Brown* (gwryw/uwch-adain) (Thecla betulae)

Brithribin Brown* (benyw/ is-adain)

Brithribin Brown* (benyw/ is-adain) ( Thecla betulae

Brithribin Brown (gwryw/is-adain)

Brithribin Brown (gwryw/is-adain) (Thecla betulae)