Mae’r Brithribin Gwyrdd yn dal ei adenydd ynghau, ac eithrio pan fydd yn hedfan, gan ddangos tu isaf gwyrdd yr adenydd â’u rhibin gwyn aneglur. Mae maint a ffurf y marc gwyn hwn yn amrywio’n fawr; yn aml nid oes ond nifer o ddotiau gwynion i’w gweld, ac weithiau mae bron yn absennol. Mae’r gwrywod a’r benywod yn debyg yr olwg, a’r ffordd orau o wahaniaethu rhyngddynt yw eu hymddygiad: gellir gweld y gwrywod cystadleuol yn hedfan yn droellog ger prysglwyni, tra bod y benywod sy’n llai amlwg i’w gweld yn amlach tra’u bod yn dodwy wyau.
Er bod y rhywogaeth hon yn gyffredin mewn llawer ardal, fe’i ceir yn aml mewn cytrefi bach ac mae wedi colli tir mewn nifer o ranbarthau.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Brithribiniau
- Bach o ran maint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 33mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Canolig
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir y Cor-Rosyn Cyffredin (Helianthemum nummularium) a Throed yr Iâr (Lotus corniculatus) ar laswelltir calchaidd, tra bod Eithin (Ulex europeaus), Banadl (Cytisus scoparius) a Melynog y Waun (Genista tinctoria) yn cael eu defnyddio ar weundiroedd a chynefinoedd eraill. Defnyddir Llus (Vaccinium myrtillus) yn unig bron ar rostiroedd a ledled yr Alban. Mae planhigion bwyd eraill yn cynnwys prysglwyni megis Cwyrwiail (Cornus sanguinea), Rhafnwydd (Rhamnus cathartica), Grug Croesddail (Erica tetralix) a Mieri (Rubus fruticosus).
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Yn gyffredin ledled Prydain ac Iwerddon, ond nid yw’n ymweld â gerddi a gall fod yn anodd dod o hyd iddi
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -29%
Cynefin
Mae ganddo amrywiaeth o gynefinoedd gan gynnwys glaswelltir calchaidd, rhodfeydd a llennyrch coetirol, gweundir, rhostir, corsydd, hafnau ar y rheilffyrdd, hen chwareli a glaswelltir prysglyd garw. Ceir y rhywogaeth hon ar rychwant eang o briddoedd, ond fe’i cysylltir yn glòs â phrysgwydd a phrysglwyni.