Gwelir Coprau Bach fel arfer fesul un neu ddau, ond mewn blwyddyn dda ceir niferoedd mawr ohonynt ar safleoedd da. Mae’r gwrywod yn amddiffyn eu tiriogaeth yn daer, gan ddewis darn o dir noeth neu garreg yn aml i orffwys dan yr haul ac aros i fenywod hedfan heibio. Maent yn ymddwyn yn ymosodol tuag at unrhyw drychfilod sy’n pasio, gan ddychwelyd at yr un man ar ôl eu hel ymaith.

Er bod y rhywogaeth hon yn gyffredin mewn llawer o fannau, dirywiodd y Copor Bach ymhobman yn ystod yr ugeinfed ganrif. Mae i’w weld ledled ynys Prydain ac Iwerddon, ac mae’n ymweld â gerddi o bryd i’w gilydd. 

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Coprau
  • Bach ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 32-35mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Suran y Cŵn (Rumex acetosa) a Suran yr Ŷd (R. acetosella) yw’r prif blanhigion bwyd. Defnyddir Dail Tafol (R. obtusifolius) yn achlysurol.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a Chymru
  • Ledled Prydain ac Iwerddon heblaw am ucheldiroedd gogledd Prydain
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -16%

Cynefin

Fe’i ceir mewn rhychwant eang o gynefinoedd. Mae’n gyffredin ei weld ar dirweddau carreg galch neu laswelltir heb ei wella, gweundiroedd, llennyrch coetirol, tir diffaith a rhostiroedd. Mae’n ffafrio amgylchiadau twym sych.

Copor Bach (uwch-adain)

Copor Bach* (uwch-adain) (Lycaena phlaeas)

Copor Bach (uwch-adain)

Copor Bach* (uwch-adain)

Copor Bach (lindysyn)

Copor Bach (lindysyn)

Copor Bach (chwiler)

Copor Bach* (chwiler)

Copor Bach (ŵy)

Copor Bach* (ŵy)