Maint a Theulu

  • Teulu – Y Nymphalidiaid
  • Mawr
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 67-72mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei asesu
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb ei asesu

Planhigion bwyd y lindys

Planhigyn bwyd pwysicaf y larfâu ym Mhrydain ac Iwerddon, sydd ar gael yn gyffredin ymhobman, yw Danadl Poethion (Urtica dioica). Ond mae Danadl Bach (U. urens) a’r rhywogaeth berthynol Paladr y Wal (Parietaria judaica) a Hopys (Humulus lupulus) yn cael eu defnyddio hefyd.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
  • Yn gyffredin ar hyd a lled Prydain ac Iwerddon
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: +25%

Cynefin

Gellir dod o hyd iddo mewn unrhyw gynefin ymron, o erddi i lannau’r môr ac o ganol trefi i bennau mynyddoedd!

Mantell Goch (uwch-adain)

Mantell Goch* (uwch-adain) (Vanessa atalanta)

Mantell Goch (is-adain)

Mantell Goch* (is-adain) (Vanessa atalanta)