Y Glesyn Cyffredin yw’r glöyn glas mwyaf cyffredin ac ehangaf ei ddosbarthiad ym Mhrydain ac Iwerddon; fe’i ceir mewn amrywiaeth o gynefinoedd glaswelltog.

Mae’r gwrywod llachar eu lliwiad yn hawdd i’w gweld tra bod y benywod yn fwy swil. Mae lliwiad uwch-adenydd y benywod yn amrywio o fod yn frown i gyd yn ne Lloegr i las yn bennaf yng ngorllewin Iwerddon a’r Alban, ond gall y lliwiau amrywio o fewn poblogaethau lleol a gellir gweld esiamplau syfrdanol. Yn wahanol i Lesyn Adonis a Glesyn y Sialc, nid yw’r gwythiennau tywyll yn ymestyn i ffurfio rhimynnau gwynion ar ymylon yr adenydd.

Mae’n eang ei ddosbarthiad o hyd ond mae dirywiad wedi digwydd ar raddfa leol o fewn ei diriogaeth. 

Maint a Theulu

Teulu – Y Gleision

Bach ei faint

Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 35mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Troed yr Iâr (Lotus corniculatus) yw’r prif blanhigyn bwyd. Mae’r planhigion eraill a ddefnyddir yn cynnwys: Troed yr Iâr Fwyaf (L. pedunculatus), Maglys Du (Medicago lupulina), Tagaradr (Ononis repens), Meillion Gwyn (Trifolium repens), Meillion Melyn (T. dubium).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
  • Fe’i ceir ar hyd a lled Iwerddon a Phrydain
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = -15%

Cynefin

Mae’n gyffredin iawn ac fe’i ceir mewn amrywiaeth o gynefinoedd, yn enwedig llecynnau heulog cysgodol. Mae ei gynefinoedd yn cynnwys twyndiroedd, twyni tywod ar lân y môr, isglogwyni, min y ffordd, glaswellt asidaidd a llennyrch coetirol

Fe’i ceir hefyd ar dir diffaith, chwareli a chloddfeydd nas defnyddir bellach, meysydd golff  a chynefinoedd trefol megis mynwentydd.

Y Glesyn Cyffredin

Y Glesyn Cyffredin* (gwryw/uwch-adain) (Polyommatus icarus)

Glesyn Cyffredin (benyw/is-adain)

Glesyn Cyffredin (benyw/is-adain)* (Polyommatus icarus)