Glöyn gwyn a du deniadol neilltuol yw’r Gweirlöyn Cleisiog, y mae’n anodd ei gamgymryd am unrhyw rywogaeth arall. Ym mis Gorffennaf mae’n hedfan ar draws glaswelltiroedd heb eu gwella, lle gall fod yn niferus iawn. Mae’n dra hoff o flodau porffor megis Mintys y Graig, Clafrllys, Ysgall a Llysiau Pengelyd. Gellir gweld y glöynnod mewn oed yn clwydo hanner ffordd i lawr coesau glaswellt tal. 

Fe’u ceir ar laswelltir blodeuog, ond maent yn crwydro i mewn i erddi yn ogystal. Mae’r rhywogaeth hon ar led yn ne Prydain, ac mae wedi ymledu tua’r gogledd a’r dwyrain dros yr ugain mlynedd ddiwethaf; mae poblogaethau ymylol yn Swydd Efrog a De Orllewin Cymru.

Maint a Theulu

  • Teulu: y Browniaid
  • Maint: Canolig
  • Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod): 53-58mm

Statws o ran cadwraeth

  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion Bwyd y Lindys

Credir bod Peiswellt Coch (Festuca rubra) yn elfen hanfodol yn neiet y larfâu, ond mae’n bwyta Peiswellt y Defaid (F. ovina), Cawnen Benwen (Holcus lanatus) a Glaswellt Twr (Brachypodium pinnatum) hefyd. Credir ei fod yn defnyddio sawl math arall o laswellt, ond ni wyddys pa mor eang yw’r amrediad llawn.

Dosbarthiad

  • Gwledydd: Lloegr a Chymru
  • De a chanol Lloegr, tua’r gogledd mor bell â Swydd Efrog, a De Orllewin Cymru
  • Tuedd y dosbarthiad ers y 1970au = +11%.

Cynefin

Glaswelltir tal heb ei wella. Ceir y poblogaethau cryfaf ar laswelltiroedd sialc neu galchfaen, ond defnyddir cynefinoedd eraill hefyd megis rhodfeydd a llennyrch mewn coetiroedd, glaswelltir arfordirol, ymylon ffyrdd ac argloddiau rheilffordd.

Ffeithlenni

pdf 481Kb

pdf 2.3Mb

pdf 285Kb

pdf 561Kb

Gweirlöyn Cleisiog_P_Eeles

Gweirlöyn Cleisiog_P_Eeles

Gweirlöyn Cleisiog_2_P_Eeles

Gweirlöyn Cleisiog_2_P_Eeles