Mae’n gyffredin ar hyd arfordiroedd Prydain ac Iwerddon ac ar weundiroedd yn ne Prydain. Mae’n gorffwys â’i adenydd ynghau. Mae tu isaf yr adenydd yn frithfrown. Mae’n rhoi’r argraff o fod yn fwy o faint tra’n hedfan, pan welir y bandiau melyn orennaidd gwelw sydd arno. 

Mae cêl-liwiad y Gweirlöyn Llwyd yn ei guddliwio’n ardderchog, gan ei gwneud hi’n anodd ei weld pan fydd yn gorffwys ar dir noeth, boncyff coeden neu garreg. Mae’n cadw’r adenydd ynghau pan nad yw’n hedfan, ac mae’r adenydd blaen fel arfer yn cael eu plygu i ffwrdd y tu ôl i’r adenydd cefn, gan guddio’r smotiau llygad a gwneud i’r glöyn ymddangos yn llai. Glöyn mawr nodweddiadol yw hwn wrth hedfan a chanddo batrwm hedfan dolennog llithrig sy’n arddangos y bandiau mwy gwelw ar yr uwch-adenydd.

Mae’r Gweirlöyn Llwyd yn gyffredin ar lan y môr a gweundiroedd yn y de, ond mae ei niferoedd yn dirywio mewn llawer ardal, yn enwedig ymhell o’r môr.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Browniaid
  • Canolig/ Mawr
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 55-60mm

Statws o ran cadwraeth

  • Wedi’i rhestru fel rhywogaeth o brif bwysigrwydd dan Adran 41 o NERC (Deddf Genedlaethol yr Amgylchedd a Chymunedau Gwledig) yn Lloegr
  • Rhestrwyd yn Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Wedi’i rhestru fel Rhywogaeth Flaenoriaethol yng Ngogledd Iwerddon gan yr NIEA
  • Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Mae’r prif rywogaethau a ddefnyddir yn cynnwys Peiswellt y Defaid (Festuca ovina), Peiswellt Coch (F. rubra), Maeswellt Gwrychog (Agrostis curtisii), a Brigwellt y Gwanwyn (Aira praecox). Defnyddir glaswelltydd mwy garw ar adegau megis Brigwellt Garw grass (Deschampsia cespitosa) a Moresg (Ammophila arenaria).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
  • Ledled Prydain ac Iwerddon, ond ar hyd glannau’r môr yn bennaf
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -45%

Cynefin

Ceir llawer o gytrefi mewn cynefinoedd arfordirol megis twyni tywod, morfeydd heli, isglogwyni ac ar ben clogwyni.

Ceir cytrefi ymhellach o’r môr hefyd mewn cynefinoedd megis gweundir sych, glaswelltir calchaidd, hen chwareli, cloddweithiau, safleoedd diwydiannol segur – gan gynnwys hen domenni rwbel ac ar adegau prin ar dir caregog mewn coetir agored.

Mae’n hanfodol bwysig i’r pridd fod yn sych â draeniad da, llystyfiant tenau a digonedd o dir noeth mewn mannau agored.

Ffeithlenni

Daear Noeth i Löynnod Byw aLöynnod Byw a Gwyfynod

Y Gweirlöyn Llwyd (gwryw a benyw)

Y Gweirlöyn Llwyd* (gwryw a benyw) (Hipparchia semele)

Gweirlöyn Llwyd (is-adain)

Gweirlöyn Llwyd (is-adain)

Gweirlöyn Llwyd (lindysyn)

Gweirlöyn Llwyd* (lindysyn) (Hipparchia semele)