Yn gyffredin ledled Prydain ac Iwerddon. Mae gan y smotiau llygad un gannwyll wen, yn wahanol i Weirlöyn y Perthi sydd â dwy. Mae Gweirlöyn y Perthi’n llai hefyd ac yn fwy orennaidd ei liw, â rhes o ddotiau bychain gwynion ar ran ôl yr is-adenydd.
Gweirlöyn y Ddôl yw’r glöyn byw mwyaf cyffredin a geir mewn llawer o gynefinoedd. Ar rai safleoedd gellir gweld cannoedd ohonynt gyda’i gilydd yn hedfan yn isel uwchben y llystyfiant. Mae’r oedolion yn dal i hedfan hyd yn oed mewn tywydd di-haul pan fydd y rhan fwyaf o löynnod byw eraill yn llonydd.
Mae’r amrywiadau ym mhatrwm y smotiau ar yr adenydd o ranbarth i ranbarth yn golygu bod y rhywogaeth hon wedi cael ei hastudio’n ddwys gan wyddonwyr genetegol ers blynyddoedd maith. Ceir ffurfiau mwy arni yn Iwerddon a gogledd Yr Alban.
Mae’n un o’n rhywogaethau mwyaf cyffredin ond mae llawer o gytrefi wedi diflannu wrth i arferion amaethyddol ddwysáu.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Browniaid
- Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 50-55mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir ystod eang o laswelltydd. Mae’n well gan Weirlöyn y Ddôl y rhai â dail meinach megis Peiswelltydd (Festuca spp.), Maeswelltydd (Agrostis spp.) a Gweunwelltydd (Poa spp.), ond mae’r larfâu mwy hefyd yn bwyta rhywogaethau brasach megis Troed y Ceiliog (Dactylis glomerata), Ceirchwellt Blewog (Helictotrichon pubescens) a Breichwellt Y Coed (Brachypodium sylvaticum). Credir bod glaswelltydd o rywogaethau eraill yn cael eu defnyddio hefyd.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Ledled Prydain ac Iwerddon
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = -4%
Cynefin
Glaswelltiroedd, gan gynnwys twyndiroedd, gweundiroedd, twyni arfordirol, isglogwyni, dolydd gwair, min y ffordd, perthi, tir diffaith a rhodfeydd a llennyrch coetirol. Fe’i ceir hefyd mewn cerddi, parciau a mynwentydd.