Fel y mae ei enwau yn Gymraeg ac yn Saesneg (Gatekeeper neu Hedge Brown) yn awgrymu, gwelir Gweirlöyn y Perthi’n aml lle bydd clysytyrau o flodau’n tyfu ar hyd perthi ac ymylon caeau a ger mynedfeydd i gaeau. Fe’i gwelir yn aml yng nghwmni Gweirlöyn y Ddôl a Gweirlöyn y Glaw, ond gellir ei wahaniaethu’n hawdd wrth iddo orffwys neu hel neithdar â’i adenydd ar led.
Mae lliwiad a phatrymau’r adenydd yn amrywio’n fawr, ac mae tua dwsin o o ddatblygiadau annormal wedi cael eu henwi. Mae ei hoff ffynonellau neithdar yn cynnwys Penrhudd, Cedowydd, Llysiau’r Gingroen a Chreulysiau, a Mieri.
Mae’n gyffredin ledled de Prydain ac mae ei diriogaeth wedi ymestyn tua’r gogledd dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ne Iwerddon mae ei ddosbarthiad wedi’i gyfyngu llawer mwy i ardaloedd penodol.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Browniaid
- Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 40-47mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir nifer o laswelltydd, ond mae’n ffafrio glaswelltydd mân tenau megis Maeswelltydd (Agrostis spp.), Peiswelltydd (Festuca spp.) a Gweunwelltydd (Poa spp.). Defnyddir Marchwellt (Elytrigia repens) hefyd. Ni wyddys am yr holl rywogaethau eraill a ddefnyddir.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Cymru ac Iwerddon
- De Prydain a de pellaf Iwerddon
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -12%
Cynefin
Fe’i ceir lle mae glaswelltydd tal yn tyfu’n agos i berthi, coed neu brysgoed. Mae ei gynefinoedd nodweddiadol i’w cael ar hyd perthi a rhodfeydd coetirol. Gellir dod o hyd i’r gweirlöyn hwn hefyd mewn cynefinoedd megis isglogwyni, gweundir a thwyndir lle mae clytiau o brysgoed.