Adenydd brown ac oren llachar a ddelir â’r blaen-adenydd ar ongl uwchben yr adenydd cefn. Mae gan y gwrywod linell denau ddu trwy ganol yr adain flaen. Mae’r Gwibiwr Bach Cornddu’n debyg, ond mae ganddo flaenau duon i’r antennae (a welir orau wrth ei weld yn benben) a chwarren fferomonau fyrrach sy’n rhedeg yn gyfochrog ag ymyl y flaen-adain yn hytrach nag ar ongl.

Trychfilod canol haf yw’r Gwibwyr Bach. Er eu bod yn treulio cryn dipyn o’u hamser yn ‘torheulo’ neu’n gorffwys ymhlith y llystyfiant, maent yn hedfanwyr heb eu hail sy’n gwibio’n fedrus rhwng coesynnau tal y glaswellt. Yr hedfan gwibiol hwn, a’r adenydd brown euraid sy’n pefrio yn yr heulwen, sydd fel rheol yn datgelu eu presenoldeb i’r gwyliwr. Wrth edrych yn fanylach, fe welwch chi lawer mwy ohonynt yn hel neithdar neu’n clwydo dan yr haul gan ddal eu hadenydd yn yr ystum hanner agored sy’n nodweddiadol o’r gwibwyr i gyd. Mae’r rhywogaeth hon yn gyffredin ledled de ynys Prydain, ac mae ei dosbarthiad wedi ymledu tua’r gogledd dros y blynyddoedd diwethaf.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Gwibwyr
  • Bach ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 30mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Ar Faswellt Penwyn (Holcus lanatus) yn unig bron y mae’r Gwibiwr Bach yn ymborthi, er i nifer o fathau eraill o laswellt gael eu cofnodi fel planhigion bwyd iddo, er enghraifft Rhonwellt (Phleum pratense), Maswellt Rhedegog (H. mollis), Breichwellt y Waun (Brachypodium sylvaticum), Cynffonwellt y Maes (Alopecurus pratensis), a Throed y Ceiliog (Dactylis glomerata).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban a Chymru
  • Yn gyffredin hyd at ogledd Swydd Efrog a ffiniau’r Alban
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: +4%

Cynefin

Mae’n well ganddo fannau agored â glaswellt tal, megis glaswelltir garw heb ei wella, twyni, glaswellt min ffordd, ymylon caeau a llennyrch coetirol.

Gwibiwr Bach (adenydd uchaf)

Gwibiwr Bach* (adenydd uchaf) (Thymelicus sylvestris)

Gwibiwr Bach (gwryw a benyw)

Gwibiwr Bach* (gwryw a benyw) (Thymelicus sylvestris)

Gwibiwr Bach (wyau)

Gwibiwr Bach* (wyau) (Thymelicus sylvestris)