Fe’i ceir ledled Lloegr ac ar safleoedd gwasgarog yng Nghymru ond mae’n mynd yn brinnach brinnach. Mae’r adenydd yn ddu neu’n frown tywyll, ac arnynt batrwm ‘bwrdd draffts’ o smotiau gwynion. Glöyn bach â phatrwm hedfan isel gwibiog yw hwn. Mae’r Gwibiwr Llwyd yn debyg iddo o ran maint, ond mae adenydd hwn yn welwach o lawer.

Mae’r Gwibiwr Brith yn löyn gwanwynol nodweddiadol ar dwyndiroedd sialc deheuol a chynefinoedd eraill lle mae’r llystyfiant yn denau. Gall fod yn anodd i’w ddilyn oherwydd ei fodd cyflym o hedfan dan suoganu, ond mae’n aros yn rheolaidd i glwydo ar frigyn amlwg neu i ymborthi ar flodau megis Pys Ceirw neu Lesyn y Coed. Gellir cadarnhau ei hunaniaeth yn gymharol hawdd wedyn trwy chwilio am y ‘bwrdd draffts’ gwyn a du ar ei adenydd.

Mae’r glöyn hwn i’w weld ar hyd a lled de Lloegr, a hynny mewn nythfeydd bychain gan amlaf. Yng Nghymru mae ei bresenoldeb yn gyfyngedig i arfordir y de a safleoedd ôl-ddiwydiannol yn y gogledd ddwyrain.

Maint a Theulu

  • Teulu: y Gwibwyr
  • Maint: Bach
  • Amrywiad yn lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod): 27mm

Statws o ran cadwraeth

  • Rhywogaeth Adran 41 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf NERC yn Lloegr
  • Rhywogaeth Adran 7 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • BAP y DU: Rhywogaeth Flaenoriaethol
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
  • Statws Ewropeaidd o ran bygythiadau: Heb fod dan fygythiad

Planhigion Bwyd y Lindys

Defnyddir amrwiaeth o blanhigion o deulu’r Rosaceae, ac yn bennaf Llysiau’r Dryw (Agrimonia eupatoria), Pumbys Ymlusgol (Potentilla reptans) a Mefus Gwyllt (Fragaria vesca). Yn ogystal gallant ymborthi ar Fefus Coeg (P. sterilis), Tresgl y Moch (P. erecta), Bwrned (Sanguisorba minor), Mieri (Rubus fruticosus), Rhosod Gwyllt (Rosa canina) a Mapgoll (Geum urbanum).

Dosbarthiad

  • Gwledydd: Lloegr a Chymru
  • Dosbarthiad gwasgarog a gostyngol ar draws Lloegr a Chymru
  • Tuedd y dosbarthiad ers y 1970au = -49%

Cynefin

Defnyddir tri phrif fath o gynefin: rhodfeydd, llennyrch a llecynnau agored mewn coetiroedd; glaswelltir heb ei wella, yn enwedig twyndiroedd sialc ond hefyd ar briddoedd calchaidd eraill gan gynnwys cleiau; a safleoedd diwydiannol sydd wedi cael eu gadael yn segur yn ddiweddar megis lefelydd mwnol segur, tomenni rwbel, rheilffyrdd a thomenni sbwriel hyd yn oed. O bryd i’w gilydd mae’r Gwibiwr Brith yn epilio ar rostiroedd, glaswelltiroedd llaith a thwyni. 

Ffeithlenni

Gwibiwr Brith* - Iain H Leach

Gwibiwr Brith* - Iain H Leach

Grizzled Skipper (egg) - Peter Eeles

Grizzled Skipper (egg)