Fe’i ceir ym Mhrydain ac Iwerddon ond mae’n mynd yn brinnach brinnach. Mae ganddo adenydd llwydfrown â marciau brychfrown a dwy res o smotiau bach gwyn. Glöyn bach ydyw â phatrwm hedfan isel gwibiol. Mae’r Gwibiwr Brith yn debyg iddo o ran ei faint ond mae ganddo farciau du a gwyn gloywach.

Yn llygad yr haul mae’r Gwibiwr Llwyd yn gorffwys yn aml ar y ddaear noeth â’i adenydd ar led. Ar ddyddiau di-haul a chyda’r nos fe fydd yn clwydo ar bennau blodau meirwon yn debyg i wyfyn â’i adenydd wedi’u crymu mewn osgo nas welir mewn unrhyw löyn byw arall ym Mhrydain. Mae’r glöyn bach brown a llwyd hwn yn ei guddliwio ei hun yn rhyfeddol o dda. Gellir ei gamgymryd am y Gwibiwr Brith, gwyfyn yr Hwn Wrach neu Gydymaith y Bwrned (Gwyfyn y Ffacbys), sydd weithiau i’w gweld ar yr un adeg ar yr un safleoedd.

Mae’r Gwibiwr Llwyd i’w gael mewn llawer man ledled Prydain ac Iwerddon, ond mae ei niferoedd wedi gostwng yn arw dros y blynyddoedd diwethaf.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Gwibwyr
  • Bach ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 29mm

Statws o ran cadwraeth

  • Wedi’i rhestru fel rhywogaeth o brif bwysigrwydd dan Adran 41 o NERC (Deddf Genedlaethol yr Amgylchedd a Chymunedau Gwledig) yn Lloegr
  • Rhywogaeth Adran 7 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
  • Wedi’i rhestru fel Rhywogaeth Flaenoriaethol yng Ngogledd Iwerddon gan yr NIEA
  • Wedi’i amddiffyn gan y Ddeddf Cadwraeth Natur yn Yr Alban
  • Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Uchel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Troed yr Iâr/Pys Ceirw (Lotus corniculatus) yw’r planhigyn bwyd arferol ym mhob cynefin. Defnyddir Ffacbys Pedol (Hippocrepis comosa) hefyd ar briddoedd calchaidd, a Phys y Ceirw Mawr (L. pedunculatus) ar briddoedd trymach.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
  • Fe’i ceir ledled Prydain, ond mae ei ddosbarthiad yn gyfyngedig iawn yn Yr Alban lle y’i ceir ar hyd glannau’r môr yn bennaf yn y de, ac yn ardal Culfor Moray yn y gogledd.
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -48%

Cynefin

Ceir cytrefi mewn ystod eang o gynefinoedd heulog agored gan gynnwys twyndiroedd calchaidd, rhodfeydd a llennyrch coetirol, cynefinoedd arfordirol megis twyni tywod a thanglogwyni, gweundiroedd, hen chwareli, rheilffyrdd a thir diffaith.

Ceir amgylchiadau ffafriol pan fydd y planhigion bwyd yn tyfu ymhlith glaswellt tenau, a hynny’n aml â chlytiau o ddaear noeth mewn man heulog cysgodlyd. Mae angen llystyfiant talach hefyd i ddarparu cysgod a lle i glwydo. 

Ffeithlenni

Daear Noeth

Y Gwibiwr Llwyd

Y Gwibiwr Llwyd* (Erynnis tages)