Mae gwrywod y rhywogaeth hon i’w gweld gan amlaf yn gorffwys mewn mannau heulog amlwg, a hynny fel arfer ar ddeilen fawr ar y ffin rhwng llystyfiant uchel ac isel, lle byddant yn aros i fenywod hedfan heibio. Mae’r benywod yn llai amlwg, er bod y ddau ryw i’w gweld yn ymborthi ar flodau, ac yn enwedig ar fieri. Mae gan y gwrywod linell ddu drwchus yn rhedeg trwy ganol yr adain flaen. Ar y tu isaf i’r adenydd gwelir smotiau oren aneglur sy’n dra gwahanol i’r rhai arian llachar sydd gan y Gwibiwr Arian. 

Mae presenoldeb patrwm sgwarog aneglur ar y ddwy ochr i’r adenydd yn ei gwneud hi’n bosibl inni wahaniaethu rhwng y rhywogaeth hon a’r Gwibiwr Bach a’r Gwibiwr Bach Cornddu sydd ill dau’n debyg iddi ac yn arfer hedfan ar yr un adeg o’r flwyddyn. Mae’r Gwibiwr Mawr yn gyffredin ledled de Prydain, ac mae ei ddosbarthiad wedi ymledu tua’r gogledd yng ngogledd ddwyrain Lloegr ers y 1960au. 

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Gwibwyr
  • Bach ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 33-35mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel             
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Defnyddir Troed y Ceiliog (Dactylis glomerata) ac ar adegau Glaswellt y Gweunydd (Molinia caerulea) a Breichwellt (Brachypodium sylvaticum). Mae’r benywod wedi cael eu gweld yn dodwy wyau ar Laswellt Twr (B. pinnatum) a Mawnwellt y Coed (Calamagrostis epigejos).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban a Chymru.
  • Yn bresennol ledled Lloegr ac yn ardal Dumfries a Galloway yn Yr Alban. Nid yw’n bresennol yn Iwerddon.
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = -12%.

Cynefin

Mae’r glöyn byw hwn yn ffafrio ardaloedd glaswelltog lle mae ei blanhigion bwyd yn tyfu’n dal, heb eu torri,  mewn mannau cysgodlyd a llaith. Fe’i ceir mewn ystod eang o gynefinoedd lle mae llwyni, llysiau pêr tal a glaswelltydd; er enghraifft rhodfeydd a llennyrch coetirol, porfeydd, min y ffordd, perthi a gweundir gwlyb.

Mae’n rhywogaeth sy’n byw mewn cynefinoedd trefol yn ogystal, megis parciau, mynwentydd a mannau eraill lle mae glaswellt yn tyfu’n dal.

Y Gwibiwr Mawr (uwch-adain)

Y Gwibiwr Mawr* (uwch-adain)

Y Gwibiwr Mawr  (is-adain)

Y Gwibiwr Mawr* (is-adain)

Y Gwibiwr Mawr  (wy)

Y Gwibiwr Mawr* (wy)