Adenydd gwynion llachar â blaenau duon bach ar yr adenydd blaen ac un neu ddau smotyn ar ganol yr adenydd. Mae’r tu isaf yn wyn hufennaidd. Mae’r Gwyn Mawr yn debyg ond yn fwy ac mae ganddo smotyn mwy ar flaen yr adenydd blaen sy’n ymestyn ar hyd ymyl yr adain.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Gwynion a’r Melynion
  • Canolig ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 48mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
  • Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth

Planhigion bwyd y lindys

Maent yn ymborthi ar gnydau bresych a Chapanau Cornicyll (Tropaeoleum majus) mewn gerddi. Planhigion croesffurf gwyllt, gan gynnwys Bresych Gwyllt (Brassica oleracea), Mwstard Gwyllt (Sinapis arvensis). Defnyddir Roced y Berth (Sisymbrium officinale), Garlleg y Berth (Alliaria petiolata), Pupurlys Llwyd (Lepidium draba) a Melengu Wyllt Ddi-Sawr (Reseda lutea) i raddau llai.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
  • Yn gyffredin ledled gwledydd Prydain ac Iwerddon
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -7%

Cynefin

Glöyn byw cyffredin a geir mewn amrywiol gynefinoedd ac yn enwedig gerddi a lotments lle tyfir bresych.

Y Gwyn Bach (uwch-adain)

Y Gwyn Bach* (uwch-adain) (Pieris rapae)

Y Gwyn Bach (is-adain)

Y Gwyn Bach* (is-adain) (Pieris rapae)

Y Gwyn Bach* (wy)

Y Gwyn Bach* (wy) (Pieris rapae)

Y Gwyn Bach (lindysyn)

Y Gwyn Bach* (lindysyn)