Mae’n löyn canolig ei faint sy’n gyffredin ymhobman mewn gerddi a pherthi. Mae’r gwrywod yn ddigamsyniol: glöynnod gwynion â blaenau oren llachar ar yr adenydd. Mae’r benywod yn wyn â blaenau duon ar yr adenydd. Mae tu isaf yr adenydd yn frychwyrdd yn y ddau ryw. Mae benywod y Gwyn Bach yn debyg i fenywod y rhywogaeth hon, ond heb farciadau o dan yr adenydd.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Gwynion a’r Melynion
- Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) – 45-50mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir nifer o blanhigion croesffurf, yn enwedig Llaeth y Gaseg (Cardamine pratensis) mewn gweunydd llaith a Garlleg y Berth (Alliaria petiolata) ar hyd min y ffordd a mewn ffosydd. Weithiau mae’n defnyddio Roced y Berth (Sisymbrium officinale), Berwr y Gaeaf (Barbarea vulgaris), Erfin (Brassica rapa), Mwstard Gwyllt (Sinapis avensis), Berwr Chwerw Mawr (C. amara) a Berwr Blewog y Cerrig (Arbis hirsuta). Yn ogystal mae’n dodwy ei wyau ar Sbectol Hen Ŵr/Arian Parod (Lunaria annua) a’r Fioled Ddamasg Bêr (Hesperis matronalis) mewn gerddi, ond credir bod tebygrwydd y larfâu o oroesi’n wael ar y planhigion hyn.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Yn gyffredin ledled ynys Prydain ac Iwerddon, ac mae wedi ymledu’n sylweddol ar draws Yr Alban dros y 30 mlynedd diwethaf
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: +7%
Cynefin
Mae’n well gan y Gwyn Blaen Oren gynefinoedd llaith megis gweunydd, llennyrch coetirol, perthi a glannau nentydd ac afonydd, ond mae’n ymweld yn llawen â gerddi.