Mae’r adenydd yn wyn â gwythiennau lledwyrdd amlwg ar yr adain ôl. Mae un neu fwy o smotiau ar yr uwch-adenydd. Mae’r Gwyn Bach yn debyg iddo, ond heb y gwythiennau gwyrdd.
Maint a Theulu
- Teulu – y Gwynion a’r Melynion
- Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 50mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir rhychwant o blanhigion croesffurf: Garlleg y Berth (Alliaria petiolata), Blodau’r Llefrith(Cardamine pratensis), Roced y Berth (Sisymbrium officinale) Berwr y Dŵr (Rorippa nasturtium-aquaticum), Mwstard gwyllt (Sinapis arvensis), Berwr Chwerw Mawr (C. amara), Bresych Gwyllt (Brassica oleracea) a Rhuddygl Gwyllt (Raphanus raphanistrum). Defnyddir y Capan Cornicyll (Tropaeolum majus) a phlanhigion croesffurf garddwrol ar adegau.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Yn gyffredin ledled Prydain ac Iwerddon
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: -1%
Cynefin
Glöyn cyffredin y mae’n well ganddo lystyfiant toreithiog llaith lle mae ei blanhigion bwyd yn tyfu. Fe’i ceir fel arfer mewn perthi, ffosydd, glannau afonydd, llynnoedd a phyllau, dolydd llaith, rhostir, rhodfeydd coetirol ac ar ymylon coetir. Mae’n bosibl ei weld mewn gerddi, ond mae’n ffafrio mannau llaith.