Ymfudwr o bell yw’r Fantell Dramor, sy’n darparu’r ymfudiadau mwyaf syfrdanol gan löynnod byw sydd i’w gweld ym Mhrydain ac Iwerddon.
Mae’n ymledu tua’r gogledd bob blwyddyn o ymylon diffeithdiroedd Gogledd Affrica, y Dwyrain Canol a chanol Asia, gan ail-gytrefu tir mawr Ewrop a chyrraedd Prydain ac Iwerddon. Mewn rhai blynyddoedd mae’n rhywogaeth eithaf niferus sy’n mynychu gerddi a mannau blodeuog eraill tua diwedd yr haf.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Nymphalidiaid
- Canolig ei faint
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 50-56mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei asesu
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb ei asesu
Planhigion bwyd y lindys
Defnyddir rhychwant eang o blanhigion bwyd, ond Ysgall (Cirsium spp. a Carduus spp.) y mae’n ei ffafrio ym Mhrydain ac Iwerddon. Mae Hocys (Malva spp.), Danadl Poethion (Urtica dioica), Gwiberlys (Echium vulgare), a nifer o blanhigion garddwrol wedi cael eu cofnodi yma hefyd fel planhigion bwyd y larfâu.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Ledled Prydain ac Iwerddon, ond mae’r niferoedd yn amrywio’n aruthrol o flwyddyn i flwyddyn
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = +32%
Cynefin
Mae’r ymfudwr cyffredin hwn yn hoff o fannau sych agored, ond gellir ei weld unrhywle mewn blwyddyn dda.