Maint a Theulu
- Teulu – y Gwynion a’r Melynion
- Mawr
- Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 60mm
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Blaenoriaeth Gwarchod Glöynnod Byw: Isel
- Statws Ewropeaidd: Heb fod dan fygwth
- Wedi’i amddiffyn yng Ngogledd Iwerddon
Planhigion bwyd y lindys
Mae’r Larfâu’n ymborthi ar ddail Rhafnwydd (Rhamnus cathartica), sy’n tyfu ar briddoedd calchaidd yn bennaf, ac ar Freuwydd (Frangula alnus), a geir yn tyfu ar y rhan fwyaf o briddoedd llaith asidaidd a gwlyptiroedd.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Yn gyffredin yng Nghymru a Lloegr, yn llai cyffredin yn Iwerddon, ac yn brin dros ben yn yr Alban
- Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = -43%.
Cynefin
Fe’i ceir ar laswelltir a choetir prysglyd. Mae’n crwydro ymhell, a gellir ei weld yn aml yn hedfan ar hyd ymyl y ffordd a pherthi.