Croeso

Perlog Du Manog_Anania funebris_Chris Manley
Perlog Du Manog - Anania funebris: Chris Manley

Cyfle gwaith cyffrous ar gyfer Swyddog Cadwraeth profiadol, ar draws De Cymru.

Cytundeb 12 mis, dyddiad cau 9fed Mai.

Swydd-ddisgrifiad Swyddog Cadwraeth yng Nghymru

Darllenwch y manylion llawn ar ein Tudalen swyddi - sgroliwch i lawr i weld cyfarwyddiadau ynghylch ymgeisio a'r ffurflen gais.

Croeso

Mae tirweddau amrywiol hardd Cymru’n gartref i 44 o wahanol rywogaethau o löynnod byw a mwy na 1,850 o wahanol wyfynod. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn dirywio o ran eu nifer a’u gwasgariad, a hynny oherwydd newid hinsawdd a’r ffordd y mae’r tir yn cael ei reoli.  Mae’r newidiadau hyn yn gymhleth: mae rhai rhywogaethau o wyfynod wedi cael eu gweld yng Nghymru yn ddiweddar am y tro cyntaf.

Dysgwch ragor: Cliciwch i ddarllen am gyflwyr ein gwyfynod  a’n glöynnod byw, ac am y gwyfynod yng Nghymru. Archwiliwch y dolenni isod sy’n mynd â chi at daflenni ac adroddiadau dwyieithog am y rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru.

Dilynwch y dolenni cyswllt ar y dudalen yma i ddysgu am ein gwaith gwych sydd â’r nod o sicrhau dyfodol i löynnod byw a gwyfynod ledled y wlad.

Newyddion am Gymru

Welsh Clearwing Species Champion Mabon ap Gwynfor_RSPBstaff_CWilliams

Gorffennaf 2022: Eiriolydd Rhywogaeth y Gliradain Gymreig. Ymweliad hyfryd â safle ar lan  Llyn Fyrnwy ddydd Gwener y 15fed fel rhan o brosiect Cyswllt Amgylchedd Cymru. Ymunodd Mabon ap Gwynfor, AS Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac Eiriolydd Rhywogaeth dros y Gliradain Gymreig, â Clare Williams o Gwarchod Glöynnod Byw a staff o’r RSPB ar lannau Llyn Fyrnwy i chwilio am y gwyfyn hwn, sydd mor brydferth ond mor anodd dod o hyd iddo. Buon nhw’n trafod pa fath o weithredu sydd angen er mwyn sicrhau y bydd yn goroesi yn y dyfodol. Ni welwyd yr un gwyfyn llawn dwf, ond daethpwyd o hyd i lu o dyllau dod allan a gweiniau chwilerod, sy’n profi bod y rhywogaeth yn bresennol o hyd ar y safle gwych yma

 

Welsh Mountain Ponies at CFF June 2022 Credit C Williams

Mehefin 2022: Mae gre o Ferlod Mynydd Cymreig a gyr o wartheg Dexter wrthi’n prysur agor eangderau o laswellt rhy doreithiog gan sicrhau cynefin addas i Fritheg y Gors yng Nghaeau Ffos Fach.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Caerfyrddin, Cyfoeth Naturiol Cymru, porfelwyr cadwraethol lleol a’n tîm ni o wirfoddolwyr gwych er mwyn gwneud yn siŵr y bydd ein darn ni o’r dirwedd hanfodol bwysig hon yn dal i estyn croeso i’r rhywogaeth brin hon, Britheg y Gors.

 

 

Volunteers searching for Marsh Fritillary webs on Gower

Allech chi helpu?

Cliciwch ar Cyfleoedd i Wirfoddoli i ddysgu sut. Mae angen gwirfoddolwyr arnon ni nawr yng Nghymru.
Mae gwirfoddolwyr yn cyflawni gwaith amhrisiadwy wrth ein helpu ni i reoli cynefinoedd, cadw llygad ar rywogaethau sydd dan fygythiad, lledaenu ein neges trwy gyfryngau cymdeithasol a llu o dasgau eraill.  Defnyddiwch y ffurflen Cysylltu â Swyddfa Cymru isod os oes cwestiynau gennych chi.

Ein Blaenoriaethau Cyfredol o ran Gwaith
Mae ein tîm bach o aelodau staff a gwirfoddolwyr ymroddedig yn canolbwyntio ar weithio gyda’r rhywogaethau hynny sydd dan y bygythiad mwyaf fel y’u disgrifir yn Strategaeth Cadwraeth Cymru. Y rhywogaethau sydd â’r flaenoriaeth uchaf gennym yng Nghymru yw: Y Fritheg Frown, Britheg y Gors, Y Gwibiwr BrithY Dolennwr Llwydfelyn,  Y Fritheg Berladeiniog, Y Gwyfyn Du â Smotiau Gwyn, Y Gwalchwyfyn Gwenynaidd Ymyl Gul, Y Brychan Pennau Saethau, Caryocolum blandulella, Coleophora serpylletorum,  Y Brychan Cochddu, a’r Dart Llwydwyrdd.
Fel aelod o Cyswllt Amgylchedd Cymru, rhwydwaith gweithgar o Gyrff Anllywodraethol amgylcheddol yng Nghymru, mae gennym sianel gyswllt werthfawr ar gyfer gweithio gyda Llywodraeth Cymru.


Green-veined and Small Whites - Pete Smith

Canghennau a  Grwpiau

Os ydych yn aelod o Gwarchod Glöynnod Byw ac yn byw yng Nghymru, fe ddewch chi’n awtomatig yn aelod p’un ai o Gangen y Gogledd neu o Gangen y De, sy’n cynnal cyfarfodydd, gweithgareddau a sgyrsiau. Mae nifer o grwpiau lleol yn ogystal. Cysylltwch â nhw trwy’r gwefannau isod i ddysgu rhagor.

Dilynwch y dolenni hyn i ddysgu rhagor:

Cangen Gogledd Cymru
Cangen De Cymru
Grŵp Cofnodi Gwyfynod Sir Forgannwg
Grŵp Gwyfynod Brycheiniog
Lepidoptera Gogledd Cymru
Gwyfynod Sir Drefaldwyn
Grŵp Glöynnod Byw a Gwyfynod Sir Gâr

Cadwch olwg ar weithgareddau Cangen De Cymru ar Facebook/Gweplyfr

Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn aelod o Gyswllt Amgylchedd Cymru (CAC/WEL) sy'n rhwydwaith gweithgar o Sefydliadau Anllywodraethol amgylcheddol yng Nghymru ac yn gyswllt gwerthfawr ar gyfer cydweithio â Llywodraeth Cymru. www.waleslink.org/cy

Brithribin Gwin

Cyhoeddiadau

Taflenni

Rhestr Gyfynod Cymru (Dros dro)

Cylchlythyron Gwarchod Glöynnod Byw yng Nghymru

Targedau Cadwraeth Glöynnod Byw a Gwyfynod

Mae’r targedau yn gosod cerrig milltir ar y llwybr at sicrhau dyfodol i 15 o’r glöynnod byw a 19 o’r gwyfynod sydd ar restr y Rhywogaethau o Brif Bwysigrwydd yng Nghymru (sef rhestr ‘Adran 42’).

Cysylltwch â’r Swyddfa

CAPTCHA

Cyfeiriad

Gwarchod Glöynnod Byw Cymru
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru (Stafell Wallace)
Llanarthne
Sir Gaerfyrddin
SA32 8HG