Natur am Byth! yw enw prosiect blaenllaw Adferiad Gwyrdd Cymru. Mae’n cyfuno naw elusen amgylcheddol â Chyfoeth Naturiol Cymru (NRW/CNC) er mwyn gweithredu rhaglen dreftadaeth ac allymestyn fwyaf y wlad, gyda golwg ar achub rhywogaethau rhag diflannu ac ailgysylltu pobl â byd natur.
Y 10 partner craidd yw:
• Cyfoeth Naturiol Cymru (sefydliad arweiniol)
• Amphibian and Reptile Conservation
• Bat Conservation Trust
• Buglife
• Bumblebee Conservation Trust
• Gwarchod Glöynnod Byw
• Plantlife
• Marine Conservation Society
• RSPB
• Vincent Wildlife Trust
Mae Gwarchod Glöynnod Byw yn falch o fod yn bartner craidd yn Natur am Byth!, gan arwain yr ymdrechion i sicrhau dyfodol i’r Fritheg Frown – y glöyn byw sydd yn y perygl mwyaf dybryd o ddiflannu ar ynysoedd Prydain.
Gwelwyd dirywiad o 96% yn nosbarthiad y Fritheg Frown, ac nid oes ganddi yng Nghymru ond un nythfa ar ôl. Cyfyngir y rhywogaeth hon bellach i ardal Old Castle Down a Chwm Alun ym Mro Morgannswg, sy’n golygu ei bod mewn perygl mawr o ddarfod.
Mae gan y Fritheg Frown ofynion tra arbennig o ran ei chynefin. Credir mai’r dirywiad yn argaeledd planhigyn bwyd ei lindys, Llysiau’r Drindod/Esgidiau’r Gwcw (Viola riviniana), ynghyd â chynnydd mewn tir gwelltog a lleihad ym maint y gwasarn Rhedyn ar rai safleoedd, yw’r prif ffactorau yn nirywiad y glöyn byw yma.
Mae rheoli’r cynefin yn elfen allweddol o’r prosiect, yn ogystal â nodi ardaloedd eraill a allai ddarparu cynefin addas i’r rhywogaeth gan roi iddi gyfle i’r boblogaeth gynyddu. Mae’r prosiect yn debyg o fod yn fuddiol hefyd i löynnod byw a gwyfynod o rywogaethau eraill, yn ogystal â Gwenyn megis y Gardwenynen, Bombus humilis a’r Wenynen Gribog (Bombus muscorum), a’r Wiber.
Mewn cydweithrediad â’n partneriaid yn y prosiect, rydym yn gweithio hefyd ar y cyd â thirberchnogion at greu systemau pori a rheoli cynefin priodol. Nod y prosiect yn y pendraw yw sefydlu poblogaethau gwydn, sefydlog a chynaliadwy o Frithegion Brown ac ehangu’r cynefin sy’n addas iddynt i’w galluogi i gynyddu eu niferoedd.
Mae mwy i Natur am Byth! na chadwraeth yn unig. Y Fritheg Frown yw’r rhywogaeth flaenllaw ddelfrydol i hyrwyddo ymgysylltiadau â chymunedau ac ysgolion gan ddarparu cyfleoedd i bobl i gysylltu neu ail-gysylltu â byd natur tra’n gwella eu hiechyd a’u llesiant.
Rhagor o fanylion: Britheg Frown (Fabriciana adippe)
Partneriaid a chydweithredwyr: Cyfoeth Naturiol Cymru (arweinydd), Amphibian and Reptile Conservation, Bat Conservation Trust, Buglife, Bumblebee Conservation Trust, Gwarchod Glöynnod Byw, Plantlife, Marine Conservation Society, RSPB, Vincent Wildlife Trust
Cyllid:
Mae’r bartneriaeth wedi cyllidebu ar gyfer cyfanswm costau o £8m i’r prosiect. Rydym wedi sicrhau cyllid ar gyfer y cyfnod datblygu oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a threfnwyd ein cais am y cyfnod cyflawni ym mis Chwefror 2023 am gyfanswm o £5m.
Mae £1.7m o gyllid cyfatebol mewn arian parod wedi cael ei sicrhau oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.
Bydd cyllid terfynol y prosiect a’i botensial gweddnewidiol yn dibynnu ar faint y cyllid ychwanegol y mae’r bartneriaeth yn llwyddo i’w sicrhau i gyfateb i’r grant oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Os bydd ein cais ar gyfer cam 2 yn llwyddiannus, fe fydd cyfnod cyflawni 4-blynedd yn dechrau ym mis Medi 2023 gan barhau tan yr hydref 2027.