In your area

 

Rhagfyr 2021:

work done at Eyarth

Mae gwaith rheoli tymor y gaeaf yn mynd yn ei flaen yng Ngwarchodfa Eyarth Rocks Gwarchod Glöynnod Byw ger Rhuthun. Mae Mieri a Rhedyn trwchus wedi cael eu clirio i adael i’r fioledau – sef y planhigyn bwyd y mae lindys y Fritheg Berlog yn dibynnu arno –ffynnu yn y gwanwyn. Trwy glirio’r coed a’r prysgwydd sy’n tyfu ar y palmentydd calchfaen, rydym yn helpu i gynnal y cynefin prin hwn, ac mae bondocio’r coetir sydd o dan y clogwyn yn sicrhau parhad ardaloedd lle bydd mannau agored a strwythurau tyfiant amrywiol. Mae llystyfiant yn cael ei glirio hefyd ar hyd y Hawliau Tramwy Cyhoeddus a llwybrau mynediad poblogaidd eraill ar y warchodfa, er mwyn sicrhau y byddant yn hawdd i’w cyrchu gan adael i ymwelwyr fwynhau’r lle tra arbenng yma.

 

 
Dark Crimson Underwing - Koen Thonissen
yr Ôl-Adain Ruddgoch Dywyll

Rhestr Gwyfynod Cymru 2020
Mae’n ymddangos nad yw’r cyfnod clo cyntaf wedi amharu ar yr ymgyrchoedd cofnodi yn 2020 gan fod 114 o gofnodion sirol newydd wedi cael eu derbyn, sef chwech yn fwy nag yn 2019. Cofnodwyd chwe rhywogaeth sy’n newydd i Gymru: y Coeswyntyll Fannog (Sir Drefaldwyn), yr Ôl-Adain Ruddgoch Dywyll a’r Pseudeustrotia Candidula (y ddau o Sir Fynwy) a’r micro-wyfynod Caryocolum kroesmanniella (Sir Ddinbych), Acleris abietana ac Evergestis extimalis (y ddau o Sir Fynwy). Rhywogaeth y coetir yw Caryocolum sydd yn fwy na thebyg yn breswylydd parhaol na sylwyd arno o’r blaen; mae’n debyg bod y lleill yn fewnfudwyr neu rai sydd wedi crwydro i mewn o boblogaethau yn Lloegr, ac a allai ymsefydlu yng Nghymru yn y dyfodol.

 

 
Trillw Bach - Aglais urticae

Hyd. 2021: Cyfrifiad Mawr Glöynnod Byw 2021 yn cofnodi’r nifer isaf erioed o löynnod byw yng Nghymru. Roedd nifer gyfartalog y glöynnod byw a gwyfynod a gyfrifwyd yng Nghymru 6% yn is na ffigyrau 2020. Anfonwyd mwy o gyfrifiadau i mewn yng Nghymru eleni: 5,911, sy’n gynnydd o 36% ers 2020, ond mae’n ymddangos bod llai o löynnod byw a gwyfynod  o gwmpas i gael eu cyfrif. Mae’n debyg bod hyn yn ganlyniad i’r gwres eithriadol a gawsom ym mis Mawrth eleni a’r tywydd gwlyb iawn a’i dilynodd ym mis Mai. Effeithiodd hyn yn bennaf ar y rhywogaethau hynny sy’n epilio ddwywaith, ac o ganlyniad roedd llai o’r rhain yn hedfan ym mis Awst. Ymhlith y rhai yn '10 Uchaf' Cymru a gyfrifwyd, roedd y gostyngiadau mwyaf i’w gweld yn rhengoedd y Trillw Bach (-36% ers cyfrifiad 2020) a’r Gweirlöyn Brych (-34%). Cafwyd y cynnydd mwyaf ymhlith Gweirlöynnod y Glaw: 119% yn fwy nag yn 2020. Cliciwch ymlaen i weld tabl llawn y canlyniadau yng Nghymru Darllenwch ragor yma

 
Cronfa Treftadaeth Lottery Heritage Fund Wales logo

Gorffennaf 2021: Dyn ni wedi cynhyrfu’n arw wrth glywed ein bod ni’n derbyn cyllid grant oddi wrth Brosiect Adferiad Gwyrdd y Loteri i ddatblygu rhagor o ffyrdd o gynorthwyo ein gwirfoddolwyr i weithredu ac i groesawu mwy o bobl ym mhob rhan o Gymru, yn ein trefi, dinasoedd a phentrefi, i fynd allan i fyd natur a chymryd rhan weithgar yn y dasg o achub ein rhywogaethau sydd dan fygythiad.