Mae’n arfer hedfan o fis Mai tan ddechrau mis Gorffennaf, ond trwy gydol Gorffennaf yn yr Alban.

Maint a Theulu

  • Teulu Y Brychanau a Rhywogaethau Cysylltiol (Larentiiniaid)
  • Bach / Canolig ei faint
  • Cwmpas lled yr adenydd (rhwng gwrywod a benywod) - 30-38mm

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
  • Prin ar raddfa genedlaethol

Disgrifiad o’r Lindysyn

Mae’n treulio’r gaeaf fel chwiler. Bydd y larfa’n ymborthi rhwng dail nyddedig o ddiwedd mis Mai tan ddechrau mis Medi (yn yr Alban)

Planhigion bwyd y lindys

Bedw (Betula spp.), Helyg Mair (Myrica gale); hefyd Helyg Deilgron (Salix spp.) ar adegau.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Cymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon
  • Wedi’i ddosbarthu’n helaeth yng ngorllewin yr Alban, ac efallai na sylwyd ar ei bresenoldeb mewn rhai ardaloedd; mae safleoedd gwasgaredig yng ngogledd Cymru, gogledd Lloegr, gorllewin Canolbarth Lloegr ac ar raddfa leol iawn bellach yn ne Lloegr. Dosbarthiad ehangach gynt yng Nghymru a Lloegr. Fe’i ceir hefyd yng ngogledd Iwerddon.
  • Tuedd Dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: Yn dirywio

Cynefin

Coetir collddail wedi’i goedlannu, rhostir corsiog, ac un safle ar Wastatiroedd Gwlad yr Haf

Y Brychan Pennau Saethau

Y Brychan Pennau Saethau* (Rheumaptera hastata)