Maint a Theulu
- Teulu – y Ffyrch Arian ac Aur, a’r Gemau Pres (Plusiiniaid)
- Canolig ei faint
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Mewnfudwr
Planhigion bwyd y lindys
Rhychwant eang o blanhigion sy’n tyfu’n isel, gan gynnwys gwahanol fathau o Friwydd/Gwellt Gwely (Galium sp.), Meillion (Trifolium sp.), Danadl Poethion (Urtica dioica), Pys yr Ardd (Pisum sativum) a Bresych (Brassica oleracea).
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban, Cymru ac Iwerddon
- Gall ymddangos unrhywle yng ngwledydd Prydain ac mae’n epilio yma (er nad yw’r camau datblygiad cynnar yn gallu goroesi’r gaeaf), ac mae’r niferoedd yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Mae’n hedfan ddydd a nos. Mae’r oedolion chwim eu hedfaniad i’w gweld yn aml yn hel neithdar mewn blodau yn ystod y dydd ac ychydig cyn y cyfnos. Gellir ei styrbio’n hawdd yn ystod y dydd pan fydd yn gorffwys ymhlith llystyfiant. Mae’n hynod niferus mewn rhai blynyddoedd, yn enwedig ger arfordiroedd y de neu’r dwyrain.
Cynefin
Gellir dod o hyd iddo ymhobman bron, o gynefinoedd arfordirol i safleoedd pell o’r môr, ac fe’i gwelir yn aml mewn gerddi. Mae’n tueddu i epilio mewn mannau di-gysgod.