Gwyfyn arianlliw trawiadol â brychau duon a thrawslinellau amrywiol eu dwysedd. Mae’n ymddangos gyda’r nos, ac yn cael ei ddenu gan faglau golau, weithiau mewn niferoedd mawr. Er ei fod yn mynychu ardaloedd creigiog, ni wyddys iddo orffwys ar gerrig brig yn ystod y dydd.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Gwladwyr, yr Ôl-Adenydd Melyn a’r Cleiau (Noctuiniaid)
- Canolig ei faint
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Rhywogaeth Flaenoriaethol
- Nodedig ar raddfa genedlaethol
Planhigion bwyd y lindys
Grugoedd, Llus, Briwydd Wen ac efallai hefyd planhigion eraill y gweundiroedd.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Cymru
- Nis gwelir ond yn hanner gogleddol Cymru, o Bumlumon yn y de i Benmaenmawr ar arfordir y gogledd. Mae ar ei fwyaf cyffredin mewn ardaloedd creigiog yn Eryri.
Cynefin
Mynyddoedd a gweundiroedd â cherrig brig.