Mae’r adenydd ôl sy’n oren melynaidd yn bennaf, ynghyd â’r adenydd blaen brown twym, yn nodweddiadol o’r rhywogaeth hon na ellir ei chymysgu â’r un arall. Fe’i gwelir yn aml yng nghwmni Hen Wrachod a rhai Bwrnedau; mae’n arfer hedfan pan fydd yr haul yn tywynnu a mewn tywydd cymylog twym. Mae’n effro iawn, a gellir ei styrbio’n hawdd ar lystyfiant isel. Fel rheol mae’n tueddu i hedfan dros bellterau byr.

Maint a Theulu

  • Teulu – Catocaliniaid
  • Canolig ei faint

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Heb ei restru
  • Cyffredin

Planhigion bwyd y lindys

Meillion Gwyn, Meillion Coch, Maglys Du, Maglys Rhuddlas, Troed yr Iâr, a mathau eraill o Ffacbys a Phys y Ceirw yn ôl pob tebyg.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon
  • Wedi’i ddosbarthu’n eithaf eang ar draws rhan ddeheuol Lloegr a de ddwyrain Cymru, ond yn fwy cyfyng ei ddosbarthiad yng ngweddill Cymru, gogledd Lloegr, de’r Alban ac Iwerddon. Yn brin ar Ynysoedd y Sianel.

Cynefin

Glaswelltiroedd sych neu laith, a hynny fel arfer ar briddoedd calchaidd; gan gynnwys twyndiroedd, dolydd gwair lle mae cyfoeth o flodau, rhodfeydd coetirol, min y ffordd ac argloddiau.

Gwyfyn Ffacbys

Gwyfyn Ffacbys* (Euclidia glyphica)