Mae ei liw cefndirol yn amrywio o frown golau i lwyd tywyll. Weithiau mae ganddo fandiau brown tywyll ar yr adenydd blaen, weithiau dim ond smotiau tebyg i frychau haul, neu mae’r bandiau’n ymdoddi i’w gilydd neu’n absennol hyd yn oed. Mae gan y gwryw deimlyddion pluog. Mae’n arfer gorffwys gan ddal ei adenydd yn wastad. Mae’n debyg ar yr olwg gyntaf i’r Seffyr Delltog, er bod y rhywogaeth honno’n gorffwys fel arfer gan ddal ei hadenydd ynghau dros ei chefn. Yn Ucheldiroedd yr Alban gellir gweld y Seffyr Rhwyllog mewn cynefinoedd tebyg, ond fel rheol mae’r rhywogaeth honno ychydig yn llai ac yn dywyllach.
Mae’n hedfan yn ystod y dydd, yn enwedig pan fydd y tywydd yn dwym. Gellir ei styrbio’n hawdd o blith llystyfiant grugog. Mae’n niferus weithiau yn y lleoedd a fynychir ganddo, yn enwedig ar weundiroedd a rhostiroedd.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Carpiogion, y Rhisgl a rhywogaethau cysylltiol (Ennominiaid)
- Bach
Statws o ran cadwraeth
- Statws UK BAP: Heb ei restru
- Cyffredin
Planhigion bwyd y lindys
Grug, Grug y Mêl, Grug Croes-ddail, yn ogystal â Meillion, Troed yr Iâr a Ffacbys.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon
- Wedi’i ddosbarthu’n eang ar draws ynys Prydain, Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, Ynys Manaw ac Iwerddon. Fe’i ceir hefyd ar ynys Jersey.
Cynefin
Fe’i ceir ar weundir, rhostir, a hefyd dolydd a glaswelltiroedd eraill gan gynnwys twyndiroed, rhodfeydd coetirol a min y ffordd.