Mae’r lindys yn eu llawn dwf yn mesur hyd at 7cm o hyd. Maent yn llwyd tywyll â brychau euraid. Mae tuswau o flew ar hyd y corff. Mae llinell o duswau blew gwyn yn bresennol ar ddwy ochr y gorff. Mae’r lindys yn gaeafgysgu ar ôl iddynt dyfu’n rhannol ac yn parhau i ymborthi yn y gwanwyn, gan gyrraedd eu llawn dwf erbyn mis Mehefin. Gellir dod o hyd iddynt yn y gaeaf weithiau yn gorffwys ar goesynnau gwair ac ar frigau llwyni. Maent yn ymborthi gyda’r nos yn bennaf yn y gwanwyn, ond gellir eu gweld yn ystod y dydd yn gorffwys ar lefelau isaf llystyfiant.

Mae’r oedolion yn hedfan gyda’r nos yn ystod mis Gorffennaf a mis Awst.

Maint a Theulu

  • Teulu – Yr Wyluniau (Lasiocampidiaid)
  • Mawr

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: heb ei restru
  • Cyffredin

Planhigion bwyd y lindys

Amrywiol laswelltydd garw, gan gynnwys Troed y Ceiliog, Pefrwellt a Hesg.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Cymru, Lloegr, Yr Alban, Iwerddon
  • Wedi’i ddosbarthu’n helaeth ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Lloegr ac Iwerddon. Yn gyffredin ar draws gorllewin yr Alban ond yn absennol o’r rhan fwyaf o’r dwyrain, yn ogystal ag Ynysoedd Heledd a Shetland.

Cynefin

Mae’n mynychu rhychwant amrywiol o gynefinoedd llaith, gan gynnwys mignedd, glaswelltir corsiog, gweundir gwlyb a choetir agored llaith. Fe’i ceir weithiau mewn cynefinoedd mwy sych, gan gynnwys gerddi trefol.

Lindysyn yr Yfwr Gwlith

Lindysyn yr Yfwr Gwlith* (Euthrix potatoria)