Mae’r Ôl-Adain Oren yn hedfan o gwmpas entrychion di-ddail coed bedw aeddfed ar ddyddiau heulog heb wynt ar ddechrau’r gwanwyn. Anaml y bydd y gwyfynod hyn yn disgyn yn ddigon isel i gael eu harchwilio’n fanwl, a thrwy sbienddrych dwbl felly y gellir eu gweld orau. Mae golwg lliw oren arnynt wrth iddynt hedfan, er mai ar yr ôl-adenydd yn bennaf y ceir y lliw hwn, fel yr awgryma ei enw. Mae’r adenydd blaen yn frownddu â marciau gwynion arnynt.
Gellir ei gamgymryd am yr Ôl-Adain Oren Fach (Archiearis notha) sy’n debyg iawn iddo; ceir y rhywogaeth honno yn ne ddwyrain Lloegr yn bennaf, ac fe’i cysylltir fel rheol ag Aethnenni yn hytrach na choed Bedw.
Maint a Theulu
- Teulu – yr Ôl-Adenydd Oren (Archieariniaid)
- Canolig ei faint
Statws o ran cadwraeth
- UK BAP: heb ei restru
Planhigion bwyd y lindys
Y Fedwen Lwyd a’r Fedwen Arian
Dosbarthiad
- Gwledydd – Lloegr, Yr Alban a Chymru
- Wedi’i ddosbarthu’n eang ac yn gyffredin yn lleol ar draws rhannau helaeth o Loegr, Cymru a thir mawr yr Alban. Nid yw wedi cael ei gofnodi yn Iwerddon.
Cynefin
Coetiroedd, gweundiroedd ac unrhyw gynefinoedd eraill lle y mae coed bedw aeddfed.