Daw enw Saesneg y rhywogaeth hon, sef Cinnabar (sinabar, sef garreg gochaidd mwyn arian byw) o liwiad yr adenydd ôl a’r marciadau ar yr adenydd blaen sy’n ei gwneud yn ddigamsyniol ei golwg. Ychydig o amrywiaeth a welir yn y lliwiau, er bod y marciadau pincaidd yn ildio ar adegau prin i liw melyn, neu weithiau mae’r adain flaen yn goch ag ymyl ddu neu y mae’r adenydd yn ddu i gyd. Gellir ei styrbio’n hawdd yn ystod y dydd; mae’n hedfan pan fydd yr haul yn tywynnu. Mae’n hedfan hefyd ar ôl iddi nosi.

Maint a Theulu

  • Teulu – Y Teigrod, yr Erminau, y Troedweision a rhywogaethau cysylltiol (Arctiidiaid)
  • Canolig ei faint

Statws o ran cadwraeth

  • Statws UK BAP: Rhywogaeth flaenoriaethol
  • Cyffredin

Planhigion bwyd y lindys

Mae’n ymborthi ar ddail a blodau Llysiau’r Gingroen. Fe’i ceir ar adegau ar Greulysiau eraill.

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon
  • Yn gyffredin dros ardaloedd helaeth ledled y rhan fwyaf o Loegr, Cymru ac Iwerddon, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Mae’n fwy cyfyngedig i gynefinoedd arfordirol yn bennaf yng ngogledd Lloegr a’r Alban.

Cynefin

Fe’i ceir yn aml mewn cynefinoedd glaswelltog agored gan gynnwys tir diffaith, argloddiau rheilffordd, gerddi a rhodfeydd coetirol; ond fe’i gwelir amlaf efallai ar laswelltir â draeniad da a borir gan gwningod, twyni tywod aeddfed a rhostiroedd.

Teigr y Benfelen / Gwyfyn y Creulys

Teigr y Benfelen / Gwyfyn y Creulys* (Tyria jacobaeae)