Gwyfyn bach llwyd golau, â chroeslinellau duaidd sy’n troi’n raddol dewach i ffurfio blotiau ar ymylon blaen y blaen-adenydd. Mae’n estyn ei adenydd hirfain allan wrth orffwys. Gellir ei gamgymryd am y Don Arfor (Scopula marginepunctata), ond mae’r rhywogaeth honno’n fwy ac fel rheol nid yw i’w chael ond mewn ardaloedd arfordirol. Gwyfyn nosol yw Ton Gwynedd, ac mae’n cael ei denu i faglau golau, mewn niferoedd bychan yn unig. Fe’i ceir o bryd i’w gilydd yn gorffwys ar gerrig brig a waliau yn ystod y dydd.
Maint a Theulu
- Teulu – Y Tonnau (Sterrhiniaid)
- Bach o ran maint
Statws o ran cadwraeth
- UK BAP: heb ei restru
- Rhywogaeth Adran 7 o brif bwysigrwydd dan y Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
- Nodweddiadol ar raddfa genedlaethol
Planhigion bwyd y lindys
Grugoedd, yn fwy na thebyg. Efallai ei fod yn defnyddio planhigion rhostirol eraill hefyd, ond bydd angen cadarnhau hyn.
Dosbarthiad
- Gwledydd – Cymru
- Nid yw i’w gael ond yng ngogledd orllewin Cymru, ac mae’n lleol iawn ei ddosbarthiad hyd yn oed yma. Yn Sir Gaernarfon y’i cofnodir amlaf. Mae cofnodion ychwanegol o’i bresenoldeb o Feirionnydd ac un cofnod yn unig o Sir Drefaldwyn.
Cynefin
Mynyddoedd a rhostiroedd, yn aml lle mae cerrig brig.