Mae’r benywod yn hedfan gyda’r nos. Gellir ei gweld o bryd i’w gilydd, yn gynnar yn y nos fel arfer. Mae’r fenyw yn fwy na’r gwryw ac mae ei marciadau ychydig yn wahanol. Mae ei lliwiad ychydig yn fwy gwelw, ac yn wahanol i’r gwryw nid oes ganddi deimlyddion plufog. Mae lliwiau cryfach gan esiamplau gogleddol neu ucheldirol, ac mae’r fenyw yn laslwyd.

Maint a theulu

  • Grŵp teuluol: Yr Ymarawdwyr (Saturniidiae)
  • Mawr
  • Wing Span Range (male to female) - 55-80mm

Statws o ran cadwraeth

  • Cyffredin

Disgrifiad o’r Lindysyn

Mae’n treulio’r gaeaf fel chwiler y tu fewn i gocŵn brown golau papuraidd, ar siâp gellygen, ac iddo gylch caeëdig o bigau sy’n pwyntio i fyny o gwmpas yr agoriad. Mae ynghlwm wrth goesyn planhigyn yn agos i’r ddaear. Dodwyir yr wyau rhwng mis Ebrill a mis Mai mewn sypiau sydd ynghlwm wrth y planhigyn bwyd. Gwelir y larfâu rhwng diwedd mis Mai a mis Awst.

Planhigion bwyd y lindys

Grug, Erwain (Filipendula ulmaria), Breuwydd (Frangula alnus), Mieri (Rubus fruiticosus), Drain Gwynion (Crataegus monogyna), Drain Duon (Prunus spinosa), Helyg (Salix spp.) a Bedw (Betula spp.).

Dosbarthiad

  • Gwledydd – Lloegr, Cymru, Yr Alban ac Iwerddon
  • Wedi’i ddosbarthu’n eang ar draws y rhan fwyaf o ynys Prydain, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Ynysoedd Erch, Ynysoedd Heledd ac Iwerddon.
  • Tueddiad dosbarthiad ers y 1970au = Prydain: Tybir ei fod yn sefydlog

Cynefin

Gweundir, corsydd rhostirol, corstiroedd isel, perthi, ymylon caeau, esgeiriau coediog, twyni tywod aeddfed a phrysgdiroedd eraill.

Ymerawdwr (benywaidd)

Ymerawdwr (benywaidd)* (Saturnia pavonia)