Mae’r elusen amddiffyn natur wyllt wedi bod wrthi’n hel cofnodion o bresenoldeb Teigr Dyfnaint, sydd wedi estyn ei gynefin yn aruthrol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Mae’r gwyfyn yn cael ei weld yn rheolaidd bellach yn Nyfnaint, Swyddi Dorset, Hampshire, Sussex a Chaint, ac mae wedi estyn ei gynefin mor bell â Llundain hyd yn oed.

Teigr Dyfnaint Yn Ne Cymru, ar Ynys Echni ger Caerdydd y gwelwyd Teigr Dyfnaint am y tro cyntaf erioed yn 2008, ond dengys cofnodion newydd ei fod yn epilio erbyn hyn ar y tir mawr yn ne ddwyrain y wlad.

 Dywedodd George Tordoff, Swyddog Gwarchod Glöynnod Byw Cymru: “Peth hyfryd yw gweld bod y gwyfyn trawiadol hwn yn ymsefydlu yn Ne Cymru. Mae’r cofnodion diweddar o’r ardal rhwng Casnewydd a’r Barri’n awgrymu’n daer ei fod yn epilio bellach ar hyd arfordir Cymru a’i fod yn debyg o barhau i ymledu yn y dyfodol. Bydd cangen y De o Gwarchod Glöynnod Byw yn sicr o gadw golwg am y rhywogaeth hardd hon y flwyddyn nesaf.”

Dyma un o’r Teigrod mwyaf deniadol; mae ganddo farciau duon a gwyn hufennaidd ar ei adenydd blaen, ac adenydd ôl coch, lliw oren neu felyn. Hon yw’r unig rywogaeth o wyfyn teigr yng ngwledydd Prydain sydd â gwir streipiau – mae gan bob rhywogaeth arall batrwm smotiog neu flotiog ar ei hadenydd.

Mae lindys blewog Teigr Dyfnaint yn ymborthi ar blanhigion llysieuaidd megis danadl poethion rhwng mis Medi a mis Mai, ac mae cyfnod hedfan y gwyfyn yn ymestyn o fis Gorffennaf a mis Medi.

Lindysyn Teigr DyfnaintYchwanegodd George: "Mae Teigr Dyfnaint yn hedfan yn ystod y dydd yn ogystal â’r nos ac mae pobl yn ei gamgymryd yn aml am löyn byw gan nad ydyn nhw’n sylweddoli bod gwyfynod yn gallu bod mor liwgar. Mae’n rhywogaeth hawdd i’w chofnodi oherwydd eich bod yn gallu ei gweld yn rhwydd yng ngolau dydd, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl yn adrodd inni’n amlach yn y dyfodol eu bod nhw wedi’i gweld. Gan fod y lindys yn ymborthi ar ystod o blanhigion gwahanol, fe allai ymddangos bron yn unrhywle."

 

Os gwelwch chi lindys Teigr Dyfnaint, anfonwch lun ohonynt i dudalen Facebook Gwarchod Glöynnod Byw neu trydarwch i @Savebutterflies