Mae’r palmentydd calchfaen yn y warchodfa braf hon ar ben bryn ymhlith y rhai gorau yng Nghymru. Mae’n cael ei rheoli’n ofalus gyda golwg ar gynnal y boblogaeth gryfaf yng Ngogledd Cymru o’r Fritheg Berlog sydd dan fygwth.

Cerrig Eyarth_Taflen gyda map

Cadwch olwg am 

 Löynnod Byw

  • Y Fritheg Berlog
  • Y Brithribin Gwyn
  • Y Gwibiwr Brith
  • Y Gwibiwr Llwyd
  • Y Fritheg Werdd
  • Gweirlöyn y Cloddiau
  • Yr Argws Brown
  • Y Glesyn Cyffredin
  • Y Fritheg Berlog Fach

Planhigion nodedig

  • Meligwellt Gogwydd
  • Lloer-redyn
  • Tafod y Ci
  • Tegeiriannau Llydanwyrdd

Hanes y Warchodfa

Prynodd Gwarchod Glöynnod Byw y safle yn 2002. Diolch i waith rheoli parhaus mae poblogaeth y Fritheg Berlog wedi tyfu’n galonogol ers hynny.

 

Disgrifiad o'r Warchodfa

Mae’r palmentydd calchfaen yn y warchodfa braf hon ar ben bryn ymhlith y rhai gorau yng Nghymru. Mae’n cael ei rheoli’n ofalus gyda golwg ar gynnal poblogaeth gryfaf Gogledd Cymru o’r Fritheg Berlog sydd dan fygwth.

Mae gwarchodfa Creigiau Eyarth (arwynebedd: 8.4 ha) yn rhan o Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI) Craig-adwy-wynt. Un o’r safleoedd cyfoethocaf yn y Gogledd yw hwn o ran glöynnod byw, gan fod 32 o’r 34 o rywogaethau y gwyddys am eu presenoldeb yn y rhanbarth wedi cael eu cofnodi ar ben y bryn calchfaen hwn.  

Mae fflora’r palmentydd calchfaen yn aruthrol, ac mae’r safle’n cynnig golygfeydd godidog o’r ardal.

Gwyliwch ffilm ddogfennol newydd am y Fritheg Berlog Fach ynghyd â gwaith Gwarchod Glöynnod Byw yng Ngwarchodfa Creigiau Eyarth Ffilmiwyd hon, yn cynnwys delweddau hudolus o’r glöyn byw hwn, gan Dream Catcher Films ar y safle dros gyfnod o 5 mlynedd.

Gweithgareddau Rheoli  

Rhoddwyd cynnig ar amrywiaeth o weithgareddau rheoli ar y safle, gan gynnwys pori defaid a chribinio rhedyn.  Y rheolaeth orau o safbwynt y Fritheg Berlog, gyda golwg ar adael i fioledau egino i’r lindys gael eu bwyta, yw torri’r prysgwydd yn rheolaidd ar raddfa fach a chadw’r rhedyn dan reolaeth.

 

Lleoliad

Cyfeirnod Grid:    SJ 122 540

Mapiau Ordnans: Landranger 116 ac Explorer 256

Y dref agosaf:      Rhuthun, Sir Ddinbych

Sut i gyrraedd

Mae Gwarchodfa Creigiau Eyarth tua 4.5 km i’r dde o dref Rhuthun yn Sir Ddinbych; mae canol y dref ar y cyfeirnod map SJ 122 540, ar fap Landranger 116 yr Arolwg Ordnans. 

I gyrraedd y Warchodfa: Mae lle i barcio nifer fach iawn o geir ym Mhont Eyarth SJ 313 355 . Côd post LL15 2NT os ydych yn Llywio â Lloeren – ond nodwch fod hyn yn cwmpasu ardal eithaf eang. 

Dilynwch y Llwybr Cyhoeddus tua’r de-orllewin o Bont Eyarth ar hyd yr hen reilffordd ac i fyny drwy’r coetir. Wrth gyrraedd y gamfa, cerddwch i fyny’r cae i’r gamfa nesaf sydd o’ch blaen ar y llaw dde. Croeswch y lôn a dilynwch y llwybr sy’n arwain y tu ôl i’r tŷ cyn troi i’r dde i mewn i’r llennyrch agored. Dilynwch y llwybr eto i fyny’r clogwyn nes croesi camfa arall i mewn i’r Warchodfa.

Ar feic: Mae’n daith o ryw 18 milltir ar y ffordd o orsaf reilffordd Wrecsam. 

Ar y bws: I gael manylion y bysus sy’n rhedeg o Ruthun i Bont Eyarth, ewch at wefan megis Traveline Cymru ar gyfer yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

Mynediad i'r safle a diogelwch 

Mae’r llwybr mynediad a awgrymwn ni’n golygu cerdded tuag 1 km, ar lwybr sy’n gymharol serth mewn mannau, i fyny o ddyffryn hardd afon Clwyd. Mae’r llawr yn anwastad mewn mannau, a bydd angen sgidiau cryf arnoch chi. Mae arwyneb y palmant calchfaen yn cynnwys llu o agennau ('clints') a greiciau 'grikes' cul sy’n dal traed y cerddwr diofal. Byddwch yn ofalus iawn ar ochr orllewinol y warchodfa lle mae ymyl dibyn heb ei ffensio.

Mae olion y fryngaer gyfagos ar dir preifat nad yw’n rhan o’r warchodfa.

Cyswllt

Clare Williams

Cyfleusterau

Y toiled agosaf: Rhuthun

Y siop agosaf: Mae yna dafarn a swyddfa bost ym Mhwll-glas.

 

 

53.079831, -3.314395

Contact reserve

CAPTCHA